Epaminondas

Oddi ar Wicipedia
Epaminondas
Ganwyd418 CC Edit this on Wikidata
Thebes Edit this on Wikidata
Bu farw362 CC Edit this on Wikidata
Mantineia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethThebes Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, person milwrol, arweinydd milwrol, gwladweinydd, swyddog y fyddin Edit this on Wikidata
Swyddstrategos, Boeotarch, Boeotarch, Boeotarch, Boeotarch, Boeotarch Edit this on Wikidata
TadPolymnis Edit this on Wikidata

Cadfridog a gwladweinydd o ddinas Thebai, Gwlad Groeg oedd Epaminondas (Hen Roeg: Ἐπαμεινώνδας) (c. 418 CC - 362 CC). Gwnaeth Thebai yn rym milwrol pennaf Groeg am gyfnod.

Pan ddaeth Epaminondas i amlygrwydd, Sparta oedd y grym pennaf yng Ngwlad Groeg yn dilyn ei buddugoliaeth dros Athen yn Rhyfel y Peloponnesos. Yn 395 CC, roedd Thebai wedi ymgyngheirio gydag Athen, Corinth ac Argos yn erbyn Sparta, ond wedi cael ei gorchfygu gan Sparta. Newidiwyd hyn gan fuddugoliaeth ysgubol Thebai dan Epaminondas ym Mrwydr Leuctra yn 371 CC, a arweiniodd at ryddhau helotiaid Messenia o reolaeth Sparta. Newidiodd Epaminondas y tactegau traddodiadol yn y frwydr hon.

Enillodd fuddugoliaeth arall dros Sparta a'i chyngheiriaid ym Mrwydr Mantinea yn 362 CC, ond lladdwyd ef ei hun yn y frwydr.

Dywedir iddo wrthod defnyddio ei safle i ymgyfoethogi, ac iddo fyw mewn tlodi cynharol trwy gydol ei oes.